Cyrsiau a Hyffforddiant sydd ar gael:
- Prentisiaeth Fodern mewn Gyrru Cerbydau Nwyddau Trwm, Dosbarthu Rheoli Warws a Storfeydd, Swyddfa Drafnidiaeth, Cludo a Dosbarthu Nwyddau City & Guilds.
- Hyffordddiant Gyrru Cerbydau Nwyddau Mawr – Categoriau “C” a “C+E”
- Trwydded llusgo trelar – categori “B+E”
- Cynllun Gyrrwyr Ifanc – Hyfforddiant i drwyddedu pobl ifanc dros 18 oed (sy’n dal trwydded yrru cerbyd gyfredol) i yrru Cerbydau Nwyddau Mawr. ‘Skills for Logistics’
- Hyfforddiant tryc fforchgodi; tryciau gwrthbwyso ac ymestyn ymhell; tryciau palet yn cael eu gyrru gan reolwr ar droed; Cyrsiau Hyfforddi Prentisiad a Chyrsiau Gloywi, National Plant ac RTITB.
- Trwyddedau i bob math o beiriannau – cloddio, rhawio, ‘Bobcat’ Jac Codi Baw; National Plant ac RTITB.
- Tystysgrif Cymhwyster Proffesiynol (CPC)
- Iechyd a Diogelwch CIEH
- Asesiad Risg CIEH
- COSHH CIEH
- Hyfforddiant codi gwrthrychau trwm CIEH
- Hyfforddiant ADR
- Loriau gyda chraen llwytho (Hi Ab) National Plant ac RTITB
- Llwytho loriau llwyth isel.
- Archwiliad Cyn-yrru Cerbydau
- Cyfarwyddyd Amser Gwaith Ewropeaidd ar oriau gyrru
- Hyfforddiant Tacograff a Thacograff Digidol
- Gyrru i arbed tanwydd
- Hyfforddiant Gloywi Gyrrwyr i gydfynd â deddfwriaeth CPC
- Cymhwyster Cyfrifiadurol ECDL
I grynhoi, y mae Hyfforddiant PRL Cyf yn sefydliad hyfforddi trwyddedig gyda system rheolaeth o safon sydd wedi ei archwilio a’i gymeradwyo gan gyrff y llywodraeth, gan ddarparwyr nawdd ariannol a darparwyr addysg lleol. Sicrha hyn ein bod yn cynnig gwasanaeth a chanlyniadau o’r safon uchaf bosib. Y mae ein llwyddiant gyda chyrsiau Cynllun Gyrrwyr Ifanc a phroffesiynoldeb y Cyfarwyddwyr a’r staff ynghyd â’r cyfundrefnau gwaith yn sicrhau gwasanaeth o’r radd flaenaf sydd yn ddigyffelyb yn y diwydiant ‘Logistics’.
Top