CROESO I PRL TRAINING LTD

Hyfforddiant PRL Cyf,Wrecsam yw’r cwmni blaengar yng Ngogledd Cymru sy’n darparu rhaglen o gyrsiau trwyddedig mewn ‘Logistics’.

Cynhaliodd ‘Skills for Logistics’ (Sector ‘Logistics’ Y Cyngor Sgiliau) ymchwil farchnata eang a ddangosodd bod tua 60,000 o swyddi gyrrwyr cerbydau yn cael eu hysbysebu yn genedlaethol yng Nghanolfannau Gwaith y Llywodraeth.

Derbyniodd Hyfforddiant PRL Cyf  gymeradwyaeth oddiwrth: -

  • ‘Skills for Logistics’ (Sector Skills Council for the Logistics Industry) i fod yn ganolfan hyfforddi ar gyfer eu cymwysterau
  • ‘City and Guilds’ i gyflwyno a darparu cymhwyster NVQ a Sgiliau Allweddol ynghyd â chymwysterau eraill.
  • ‘National Plant’ ac ‘RTITB’ i hyfforddi a chymhwyso Trwyddedau Tryc Fforch Godi a pheiriannau trymion eraill.
  • C.I.E.H. i ddarparu amryw o gyrsiau a chymwysterau Iechyd a Diogelwch.

Ffurfiwyd cynghrair rhyngom ag Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI), Coleg Iâl, I-Tec Wrecsam a Skills for Logistics. Y mae gan y gynghrair hon y ddarpariaeth i gynnig cyrsiau gradd, cyrsiau Addysg Bellach, cyrsiau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, cymhwyster NVQ ymhob agwedd o ‘Logistics’ a Chynllun Gyrrwyr Ifanc a Phrentisiaeth Fodern. (Gan fod Cymru a pholisi o Addysg  Gydol  Oes nid yw cyfyngiadau oedran Lloegr yn berthnasol yma.)

Yn sgil cyfarwyddiadau’r Gymuned Ewropeaidd parthed Diwydiant Logistics, Tacograffau Digidol, Tystysgrif Cymhwyster Proffesiynol (CPC), Cyfarwyddiadau Oriau Gwaith, a Hyfforddiant Gorfodol, y mae’n  angenrheidiol gwario miliynau o bunnau ar hyfforddiant i sicrhau gyrrwyr  mwy proffesiynol. Rhaid i gyrsiau hyfforddiant fod wedi eu cymeradwyo os ydynt am gyfrannu tuag at ddeddfwriaeth Hyfforddiant Gorfodol.

Ein Canolfan hyfforddi yn Wrecsam yw’r cyntaf, a’r unig ganolfan yng Ngymru sydd wedi cael cymdradwyaeth oddiwrth y DSA (Driving Standards Agency). Ynghyd â hyn y mae ardal bwrpasol i hyfforddi tryciau fforchgodi, ystafell gyda chyfarpar ar gyfer hyfforddi theori gyrru a dosbarthiadau ar gyfer cynnal cyrsiau megis Iechyd a Diogelwch.

Top